Berea Newydd Bangor

Hanes yr Eglwys



Dydd Sul

Fel arfer ar ddydd Sul bydd yna groeso cynnes a bydd rhywun yn dangos i chi lle gallwch eistedd. Byddwn yn canu mawl yn rhan gyntaf y gwasanaeth fydd yn cynnwys emynau a gweddïau. Yna bydd toriad bach i wneud y casgliad a chyhoeddiadau ac yna bydd pregeth yn seiliedig ar y Beibl ond yn berthnasol i heddiw. I orffen byddwn ni fel arfer yn canu un emyn arall.

Unwaith y mis byddwn yn dathlu Swper yr Arglwydd gyda’n gilydd.

Croeso i chi ymuno gyda ni am 10yb yn y Capel ym Mhenrhosgarnedd ac Oedfa Ffôn am 5.30.

Mae croeso cynnes i deuluoedd yn yr oedfa ar fore Sul ac mae yna fwrdd crefftau a gweithgareddau iddynt ar gyfer rhan gyntaf yr oedfa cyn mynd allan i’r Ysgol Sul.

Bydd Oedfa Deuluol yn digwydd tua dwy waith y tymor. Bydd rhain yn cael eu hysbysu ar ein tudalen Facebook ac i’w weld ar galendr yr Eglwys.


Ysgol Sul

Bob bore Sul yn ystod tymor ysgol ar gyfer oedran 3 i 16 yn ystod y bregeth yn oedfa’r bore.

Hefyd ar gael Creche i’r plant ifancaf yn ystod yr oedfa.

CIC Bang Bach

Nos Lun 6-7yh yn ystod tymor ysgol ar gyfer oedran 7 i 11 oed.Cliciwch yma i ddarganfod mwy

CIC Bang

Clwb Ieuenctid 11oed i fyny 7.30-9yh Nos Lun. Cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cyfarfod Gweddï

Mae’r cyfarfod gweddi yn cael ei gynnal bob bore dydd Llun am 10 yn ystod tymor yr ysgol yng Nghapel Berea Newydd. Mae modd ymuno dros zoom – cysylltwch gyda ni os hoffech y manylion.


Pwy ydy pwy?

Gweinidog:

Parch Dr. Elwyn Richards

Cadeirydd Pwyllgor y Blaenoriaid:

John Wynn Jones

Trysorydd:

Mrs Cynthia Owen

Arolygydd yr Ysgol Sul:

Ms. Menna Baines

Ysgrifennyddes Y Cyhoeddiadau:

Mrs Eirian Howells

Gofal am yr Adeilad:

Mr Robat Roberts

Ysgrifenydd:

Mr Gareth Emlyn Jones


Lle ydan ni?

Cyfeiriad:

Capel Berea Newydd, Rhodfa Dewi Sant, Ffordd Penrhos, Bangor, Gwynedd, LL57 2AX

Rhif Ffôn Swyddfa’r Capel:

01248 353132


Cysylltu â ni