
Beth ydy CIC Bang?
Clwb Ieuenctid Cristnogol i bobl ifanc dros 11 (oed uwchradd). Nod y clwb yw creu lle saff i’r bobl ifanc a’r arweinwyr fod eu hunain a darganfod pa wahaniaeth mae ffydd yn Iesu yn gallu gwneud i’w bywydau heddiw. Byddwn ni’n darganfod hyn drwy sesiwn awr a hanner llawn gemau, snacs, drama, gweithgareddau hwyl a mwy.
Pryd?: 7.30 – 9.00yh, bob nos Lun yn ystod tymor ysgol.
Lle?: Capel Berea Newydd
Pwy?: Mae’r Clwb yn cael ei arwain gan Andrew Settatree, Hannah Smethurst a thim o arweinwyr o Gapel Berea Newydd a Chapel Emaus