

Dydd Sul
Fel arfer ar ddydd Sul bydd yna groeso cynnes a bydd rhywun yn dangos i chi lle gallwch eistedd. Byddwn yn canu mawl yn rhan gyntaf y gwasanaeth fydd yn cynnwys emynau hen a newydd a gweddïau. Yna bydd toriad bach i wneud y casgliad a chyhoeddiadau ac yna bydd pregeth yn seiliedig ar y Beibl ond yn berthnasol i heddiw. I orffen byddwn ni fel arfer yn canu un emyn arall.
Croeso i chi ymuno gyda ni am 10yb yn y Capel yn Felinheli.
Mae croeso cynnes i deuluoedd yn yr oedfa ar fore Sul ac mae yna fwrdd crefftau a gweithgareddau iddynt yn ystod yr oedfa.
Bydd Oedfa Deuluol yn digwydd tua dwy waith y tymor. Bydd rhain yn cael eu hysbysu ar ein tudalen Facebook ac i’w weld ar galendr yr Eglwys.

Cyfarfod Gweddi
Mae’r cyfarfod gweddi yn cael ei gynnal bob bore dydd Llun am 10 yn ystod tymor yr ysgol yng Nghapel Berea Newydd. Mae modd ymuno dros zoom – cysylltwch gyda ni os hoffech y manylion.
Pwy ydy pwy?

Gweinidog:
Parch Dr. Elwyn Richards

Plant, Ieuenctid a Theuluoedd:
Andrew Settatree
Blaenor:
Mrs Anwen Roberts
Blaenor:
Mrs Nerys Owen
Blaenor:
Mr Ieuan Roberts
Blaenor
Mr Hugh Vaughan Jones
Trysorydd:
Mrs Suzanne Evans
Lle ydan ni?
Cyfeiriad:
Capel Bethania, Maes Y Felin, Y Felinheli, Gwynedd, LL56 4XD
Rhif Ffôn:
01248 353132