Mae hanes sut y daeth y symud cartref yn eithaf diddorol ac mi geisiaf fel un o’r blaenoriaid yn yr hen Berea roi braslun o beth ddigwyddodd. Mi oedd yr hen Berea wedi ei leoli ar Ffordd Caernarfon o gwmpas lle mae y gylchfan i fynd i’r safle siopa Dewi Sant ar hyn o bryd. Mi oedd Berea yn adeilad sylweddol gyda galeri, festri a allai lwyfannu dramau a hefyd sawl ystafell atodol. Tu ôl ir Capel oedd Ysbyty Dewi Sant lle gwelodd y rhan fwyaf ohonom o’r ardal yma olau dydd am y tro cyntaf. Wedi cau yr ysbyty a symud yr adran famolaeth i Ysbyty Gwynedd fe lwyddwyd ymhen amser i werthu y safle i datblygwyr or enw Morbaine i wneud canolfan siopia a hefyd datblygiad tai.
Problem y datblygwr oedd bod Berea yn digwydd bod yn cuddied y ganolfan siopa ac fe ddaethont i drafod efo’r Blaenoriaid a oedd modd prynu llain o dir oedd o flaen y capel fel y buasent yn gallu cael gwell mynediad i’r safle. Gan fod Arfon Evans efo cysylltiadau ar cwmni Morbaine nid oedd yn briodol iddo fod yn rhan o’r trafodaethau. Felly fe gafwyd tim o dri sef y Gweinidog Parch Eric Jones, Dr Iorwerth Morris a minnau i geisio gweld ffordd ymlaen. Wedi llawer o gyfarfodydd a’r datblygwr fe ddaeth yn amlwg nad oedd y llain tir yn ddigon ac fe gynnigwyd prynnu y festri ac wedyn daethont atom a dweud eu bod am brynnu y safle i gyd.
Bu llawer o drafod yn yr amser hwn gan gynnwys uno yn adeilad y Wesleaid Capel Moriah ar draws y ffordd sydd bellach yn adeilad trin gwallt TH1. Yna awgrymodd y datblygwyr y buasent yn adeiladu Capel newydd inni ar safle arall.
Yn ystod y cyfnod yma ymholodd un o Eglwysi Cymunedol Saesneg Bangor a allent gael eu cynhadledd flynyddol yn Berea ac fe drefnwyd imi gyfarfod ac aelod o’r pwyllgor trefnu tu allan i’r capel i weld addasrwydd y capel i’r achlysur. Mynd yn brydlon at y Capel erbyn 10 o’r gloch rhyw fore Sadwrn heulog ond ni welwn unrhyw un oedd yn tebygu i aelod o Eglwys. Wedi disgwyl ryw chwarter awr fe sylwais ar berson yn pwyso ar ei fotobeic yn ei wisg lledr ac mi fentrais gofyn iddo os oedd yn ymwneud a’r Eglwys Gymunedol ac er mawr syndod fe ddywedodd ei fod.Wrth drafod yr adeilad fe soniais wrtho ein bod yn bwriadu cael capel newydd ac mwy na thebyg y buasai yn llai o faint i adlewyrchu y gynulleidfa bresennol. Siarsiodd fi i beidio a meddwl yn fach ac i geisio am adeilad cymharol a Berea gan nid ein cynlluniau ni oedd yn bwysig ac ni wyddom beth oedd ei gynlluniau Ef. Ar ôl hyn bum ein tri yn daer ein bod angen capel oedd yn cymharu mewn maint ac adnoddau.
Buom ein tri mewn llawer i gyfarfod wedyn yn ceisio cael adeilad gwerth chweil gyda adnoddau modern ac fe fu trafod dibendraw ar maint y stafelloedd, maint y gegin, faint o lefydd parcio ac yn y blaen. Mae yn rhaid dweud bod Morbaine y datblygwr wedi bod o’r dechrau yn awyddus i godi adeilad safonol ar ein cyfer er nad oeddent wedi codi capel o’r blaen.
Daeth cyfnod yr adeiladu a gwir dweud bod ein Gweinidog yn ystod yr amser yma yn fwy o Glerc o Works na dim arall. Bu yn ddraenen barhaus yn ystlys yr adeiladydd ond cafodd gefnogaeth y Clerc o Works go iawn oedd yn digwydd bod yr un mor daer a fynta am gywirdeb y gwaith. Gwelwyd llawer o bethau urddasol yn yr adeilad fel y cerfio o groes a ichthus wrth ben bob drws.
Erbyn i’r pum capel ddod at ei gilydd teimlem ein bod yn gallu eu croesawu i gapel amlbwrpas, hwylus a diddos.
John Wynn Jones