Andrew Settatree

y enw ydy Andrew Settatree. Tyfais i fyny ar dyddyn y tu allan i Hwlffordd, Sir Benfro, yn wreiddiol, felly hogyn y wlad ydw i go iawn! Mae gen i ddwy chwaer ac un brawd. Ar ôl gorffen fy Lefel A yn Ysgol Tasker Milward, Hwlffordd, treuliais flwyddyn Gap yn gweithio ac yn gwneud gwaith cenhadol yn Uganda.

Yn dilyn hyn bûm am dair blynedd ym Mhrifysgol Caerdydd yn hyfforddi fel nyrs. Ar ôl gweithio am ddwy flynedd yng Nghaerdydd ac Awstralia cefais fy ngalw yn 2008 i fod yn Weithiwr Plant ac Ieuenctid i Gynllun Efe ym Mro’r Eco, yn cydweithio â chapeli’r ardal i gyflwyno neges achubol Iesu Grist i blant ac ieuenctid y cylch drwy sefydlu clybiau ieuenctid, ymweld ag ysgolion, trefnu digwyddiadau cenhadol yn ogystal â mynd â’r plant ac ieuenctid i Goleg y Bala yn aml iawn. Yn ogystal â hyn gweithiais am ddwy flynedd i Gynllun Trobwynt yn Llŷn ac Eifionydd yn gwneud gwaith tebyg.

Yna yn 2016 cefais fy mhenodi’n Gynorthwyydd Gweinidogaethol yn Ardal Dwyfor, yn cael mwy o brofiad yn pregethu o gwmpas y capeli, gwneud gwaith bugeiliol a gwneud gwaith plant ar ben yr hyn ro’n i’n ei wneud o’r blaen.

Cefais fy magu mewn teulu Cristnogol oedd yn aelodau brwd o eglwysi lleol, ond a dweud y gwir, am gyfnod hir doeddwn i ddim yn mwynhau mynd i gapel. Fodd bynnag, newidiodd hynny pan symudon ni i eglwys newydd a hynny pan oeddwn yn 14 oed. Yn wahanol i’r eglwysi eraill y bues i’n rhan ohonyn nhw, roedd yr eglwys hon yn gwneud ymdrech go iawn i gynnwys plant ac ieuenctid ym mhob agwedd o’i bywyd. Bues i’n aelod brwd o’r Clwb Ieuenctid a chefais gyfle i ddarganfod fy noniau
wrth helpu gyda’r ysgol Sul, y gwaith ysgolion a bod yn rhan o’r timoedd cenhadaeth draeth yr oedd yr eglwys yn eu trefnu. Ond er fy mod i’n aelod brwd o weithgareddau’r eglwys, doeddwn i ddim wir yn adnabod Iesu fy hun. Newidiodd hyn pan dderbyniais Feibl yn 15 oed ac wrth imi ei ddarllen agorodd Duw fy llygaid i weld faint o bechadur oeddwn i ond hefyd faint yr oedd o wedi maddau i mi drwy waith Iesu ar y groes, heb i hynny fod yn seiliedig o gwbl ar fy ymdrech fy hun. Ers hynny mae fy nhaith ffydd wedi bod yn ychydig bach o rollercoaster ond dim ots pa mor dda neu ddrwg dwi’n gwneud, dwi’n gwybod fod ei gariad a’i ras tuag ata i yr un fath. Yr adnod sy’n fy nghynnal o hyd yw geiriau Paul wrth Timotheus:


‘Mae beth sy’n cael ei ddweud mor wir, a dylai pawb ei gredu: Daeth y Meseia Iesu
i’r byd i achub pechaduriaid – a fi ydy’r gwaetha ohonyn nhw.’ (1 Timotheus 1:15)
Rwyf yn byw yng Nghaeathro ac rwy’n


Dwi’n briod â Hev ers tair blynedd bellach. Rwyf yn hoff iawn o ddilyn a chymryd rhan mewn chwaraeon, yn enwedig cerdded a phadl-fyrddio ar Lyn Padarn.


Rydyn ni wedi mabwysiadu plentyn dwyflwydd sydd yn antur gyffrous iawn heb os! Yr wyf fi a Hev yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gydweithio gyda chi er mwyn helpu plant, ieuenctid a theuluoedd i dyfu fel disgyblion yn ein gofalaeth ni, gyda nerth yr Arglwydd. Teimlwch yn rhydd i alw heibio’r Capel yn ystod y dydd i gael panad a sgwrs, byddwn i wrth fy modd yn cael dod i’ch adnabod yn well.